Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

 Tymor Newydd, Digwyddiadau a Chodi Arian.              A New Term, Events and Fundraising.                          Un nuevo término, eventos y recaudación de fondos.

16/3/2017

0 Comments

 
Picture
Tymor newydd, ffrindiau newydd
Wedi cyfnod o wyliau agorodd Ysgol y Cwm ei drysau unwaith yn rhagor yn barod am dymor newydd sbon, a fe groesawyd 30 o ddisgyblion bach newydd!  Y newyddion mawr yw bod Ysgol y Cwm wedi derbyn trwydded gan Weinidogaeth Addysg Ariannin i weithredu fel Ysgol Gynradd swyddogol. Yn ymarferol, mae hyn wedi galluogi i´n disgyblion hynaf o´r llynedd i symud ymlaen  i Flwyddyn 1 yr Ysgol Gynradd eleni , ac i barhau gyda'u haddysg yma  yn Ysgol y Cwm – newyddion ardderchog! Mae hefyd yn golygu y bydd ychydig bach mwy o gefnogaeth ariannol ar gael i dalu athrawon a fu gynt yn rhoi eu hamser yn wirfoddol.  Edrychwn ymlaen at gael croesawu rhagor o blant bach yr ardal dros y blynyddoedd i ddod!

New term, new friends
March 2016 saw the beginning of a new school term at Ysgol y Cwm, with 30 new pupils getting their first taste of school life. During the holidays the school was officially awarded its licence to operate as a Primary School, from the Argentine Ministry of Education. On a practical level, this means that last term´s older pupils can continue with their education here at Ysgol y Cwm, as they are welcomed into the first year of Primary School. Fantastic news! The Primary School licence also brings with it a little more financial support, so that the school can now afford to pay some of those teachers who had previously been giving their time voluntarily. We look forward to welcoming more new friends over the coming years!

Nuevo Término, nuevos amigos
En marzo de 2016 se inició un nuevo ciclo escolar en Ysgol y Cwm, con 30 nuevos alumnos que obtuvieron su primer gusto por la vida escolar. Durante las vacaciones la escuela recibió oficialmente su licencia para operar como Escuela Primaria, del Ministerio de Educación de la Nación. En un nivel práctico, esto significa que los alumnos mayores de la última etapa pueden continuar con su educación aquí en Ysgol y Cwm, ya que son bienvenidos en el primer año de la escuela primaria. ¡Noticias fantásticas! La licencia de la escuela primaria también trae consigo un poco más de apoyo financiero, de modo que la escuela ahora puede permitirse el lujo de pagar a algunos de los profesores que habían estado dando su tiempo voluntariamente. ¡Esperamos dar la bienvenida a más nuevos amigos en los próximos años!

Ymwelwyr o Gymru
Bydd Tecwyn a Rhiannon Ifan yn ymweld â´r ardal am bythefnos, rhwng y 24ain o Fawrth a´r 4ydd o Ebrill. Mae´r ddau ohonynt yn gerddorion o fri, gyda Tecwyn yn adnabyddus ledled Cymru gyfan am ei ganu gwerin, tra bod Rhiannon yn athrawes gerdd. Bydd y ddau ohonynt yn cynnal gweithdai agored yma yn Ysgol y Cwm, a bydd Noson Lawen hefyd yn cael ei chynnal. Bydd manylion yr holl weithgareddau yn ymddangos yma´n fuan. Edrychwn ymlaen at eu croesawu hwy a chith
au!
Visitors from Wales
Tecwyn and Rhiannon Ifan will be visiting the area between the 24th of March and the 4th of April. Both are renowned musicians – Tecwyn is known throughout Wales for his Folk singing, whilst Rhiannon is a music teacher. During their time in the Andes, they will be holding several open workshops here at Ysgol y Cwm, and a Noson Lawen will also be held. Details of all events will be published here soon. We look forward to welcoming them!

Visitantes de Gales
Tecwyn y Rhiannon Ifan visitarán el área entre el 24 de marzo y el 4 de abril. Ambos son músicos de renombre - Tecwyn es conocido en todo de Gales por su canto Folk, mientras que Rhiannon es un ejecutante Cerdd Dant realizado. Durante su estancia en los Andes, tendrán varios talleres abiertos aquí en Ysgol y Cwm, y también se llevará a cabo un Noson Lawen. Los detalles de todos los eventos serán publicados aquí pronto. Esperamos darles la bienvenida!
 
Ysgol Gymraeg yr Andes
Wedi i´r dosbarthiadau dawelu ar ôl diwrnod prysur o ysgol, mae Ysgol y Cwm yn troi yn ganolfan dysgu Cymraeg i oedolion a phobl ifanc, ac yr wythnos hon fe groesawyd criw newydd o fyfyrwyr brwd i ddysgu´r iaith gyda thiwtoriaid Ysgol Gymraeg yr Andes. Mae dosbarthiadau ar gael ar  gyfer dysgwyr o bob safon – o gyrsiau sylfaenol at gyrsiau pellach. Os oes awydd gyda chi ymuno gyda ni i ddysgu Cymraeg, cysylltwch gyda ni drwy´r ddolen ´Cysylltu´isod.

At night-time, Ygol y Cwm doubles up a centre of learning for adults, who come to learn Welsh with our Ysgol Gymraeg yr Andes tutors. The centre caters for adult learners of all ages and abilities, and this week welcomed its 2017 intake. It´s still not too late to register – contact Ysgol y Cwm via the link below to find out how you can join us.

Por la noche, Ygol y Cwm se dobla un centro de aprendizaje para los adultos, que vienen a aprender Galés con nuestros tutores Ysgol Gymraeg yr Andes. El centro atiende a estudiantes adultos de todas las edades y habilidades, y esta semana acogió con beneplácito su ingesta de 2017. Todavía no es demasiado tarde para registrarse - póngase en contacto con Ysgol y Cwm a través del siguiente enlace para averiguar cómo puede unirse a nosotros.

Dyfal Donc…
Mae´r Gymdeithas Gymraeg yn parhau i weithio ar gwblhau cyfleusterau´r Ysgol . Fe gwblhawyd y gwaith paentio yn y dosbarthiadau ac yn y cyntedd dros y Nadolig, a'r cam nesaf fydd cwblhau´r ystafelloedd ymolchi a thai bach yr oedolion, ynghyd a chodi cafnau ar y to. Byddwn wedyn yn symud ymlaen at un o´n prif amcanion eleni, sef codi arian tuag at gael athro neu athrawes Cymraeg arall o Gymru yn 2018. Mae´r Ysgol yn croesawu unrhyw gymorth ariannol, a gall cyn lleied â ₤5 y mis gyfrannu tuag at ddatblygu´r ysgol a chyflogi athrawes newydd. Os yr hoffech chi helpu, mae´r manylion i gyd i´w cael yma: Rhoi - Donar - Donate:


Continuing With The Good Work...
The Welsh Association continues to work on completing the building and decorating work around the school.  The corridor and classrooms were painted over the holidays, and the next step is to finish the work on the bathrooms. We will then move onto one of our main aims for 2017 – raising enough funds to pay for a Welsh teacher to come over from Wales in 2018. Ysgol y Cwm welcomes any financial assistance. As little as ₤5 a month would help us achieve this year´s aim of developing the school and raising the funds to employ a teacher from Wales in 2018. The details of how you can help can be found here: Rhoi - Donar - Donate


Continuando con el buen trabajo ..
La Asociación Galesa continúa trabajando en completar el trabajo de construcción y decoración alrededor de la escuela. El pasillo y las aulas fueron pintados durante las vacaciones, y el siguiente paso es terminar el trabajo en los baños. A continuación, pasaremos a uno de nuestros principales objetivos para el 2017 - recaudar fondos suficientes para pagar por un maestro gales a venir de Gales en 2018. Ysgol y Cwm da la bienvenida a cualquier ayuda financiera. Tan poco como ₤ 5 al mes nos ayudaría a alcanzar el objetivo de este año de desarrollar la escuela y recaudar los fondos para contratar a un maestro de Gales en 2018. Los detalles de cómo puede ayudar se pueden encontrar aquí: Rhoi - Donar - Donate

0 Comments

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria