Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

Tafodieithoedd y Wladfa

5/3/2018

0 Comments

 
Picture
Yn ddiweddar bu Dr Iwan Wyn Rees (dde), darlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac arbenigwr nodedig ym maes tafodieitheg, draw yn y Wladfa yn ymchwilio mewn i dafodieithoedd Cymraeg talaith Chubut. O ganlyniad i'w waith ymchwil, cynhyrchwyd adnodd newydd i gynorthwyo addysgwyr.

Pwrpas adnodd y Wladfa yw cyflwyno am y tro cyntaf amrywiadau tafodieithol cyfoes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae’r adnodd yn cynnig cyfle i wrando ar Gymraeg llafar gwahanol fathau o siaradwyr o’r Wladfa, ac i gyd-fynd â’r clipiau hynny, ceir nodiadau manwl yn tynnu sylw at amrywiaeth o nodweddion tafodieithol.

Dyma adnodd addysgol yn bennaf gyda’r amcan o godi ymwybyddiaeth addysgwyr o ffurfiau Gwladfaol cynhenid sydd i’w clywed o hyd gan rai carfanau o siaradwyr Cymraeg y Wladfa.

Dywed Dr Rees: “Mae yna ddadl bod unrhyw fath o Gymraeg yn well na dim Cymraeg o gwbl ac er nad ydw i’n anghytuno, dwi o’r farn fod annog siaradwyr i deimlo balchder a hyder yn eu tafodiaith yn ffordd wych o adfywio’r Gymraeg yn gyffredinol. Mae tafodieithoedd Cymraeg y Wladfa wedi datblygu mewn ffordd unigryw ers 1865 ac felly pam dylai dysgwyr Patagonia orfod dysgu amrywiad sy’n perthyn i Gymru?”
“Fy ngobaith i yw bydd yr adnodd newydd yma yn perswadio addysgwyr i beidio ag anwybyddu tafodiaith draddodiadol y Wladfa ac felly atal diflaniad rhai geiriau ac ymadroddion sy’n unigryw i’r rhan yma o’r byd.

Dyma ddolen at yr adnodd: llyfrgell.porth.ac.uk/Default.aspx?catid=528




0 Comments

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria