Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

Blog Gwenno - Mis Mawrth

5/4/2020

1 Comment

 
Shwmae? Wel, lle i ddechrau? Am amser rhyfedd iawn. Pan roeddwn yn cerdded ymlaen i’r awyren yn Gatwick, feddyliais erioed fyddai’r byd mewn argyfwng fel yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Mae ysgolion yr Ariannin wedi bod ar gau nawr ers tair wythnos. Dwi’n amau y fyddant ar gau tan o leia’r Pasg. Mae hediadau wedi canslo, y bysus ddim yn rhedeg a’r tai bwyta i gyd ar gau. Dyn ni ar ‘lockdown’ gyda heddlu yn patrolio’r strydoedd- dim ond yn cael gadael y tŷ i fynd i’r siop neu i’r Ferfyllfa. Dyn ni ddim hyd yn oed yn gallu mynd mas am wac- dwi felly’n gaeth i’r fflat.

Fe ddechreuodd y mis gyda dathliadau Dydd Gŵyl Dewi- nes i ddathlu’r 1af o Fawrth fwy na dwi erioed wedi gwneud nôl yng Nghymru. Cefais fy mhrofiad o de Cymreig cyntaf ym Mhatagonia- gwledd anferth o gacennau a theisennau- doedd dim angen bwyta am ddiwrnodau! Parhaodd y dathliadau yna gyda noson o ddawnsio a chanu caneuon enwocaf Cymru gyda Alejandro Jones (profiad arbennig!). Yn yr ysgol cafwyd wythnos o ddysgu am Ddewi Sant gyda pharti ar y Dydd Gwener gyda rhai disgyblion wedi coginio- dyma fwynhau! 

Ar y 9fed o Fawrth, dathlodd Ysgol y Cwm ei phen-blwydd yn bedair mlwydd oed. Mae’n anhygoel edrych nôl ar luniau a gweld pa mor bell mae’r ysgol wedi dod. O wersi yn Nhŷ  Capel gyda rhyw deuddeg disgybl i’r llun isod- bron i gant o ddisgyblion yn derbyn addysg ddwyieithog Sbaeneg a Chymraeg. Da iawn wir i bawb sydd wedi bod yng nghlwm gyda’r holl waith.  

Cefais hefyd benwythnos arbennig o anturus yn Llyn Bagillt gyda Clare, Margo ac Erica Hammond (prifathrawes yr ysgol). Mewn deuddydd, gwnaethom gerdded 39 o gilometrau i fyny mynyddoedd gyda cherrig ansad. Arhosom mewn Refugio yng nghanol nin-lle- roedd yn benwythnos llawn o brofiadau a heriau newydd.

Yn anffodus, roedd rhaid ffarwalio a Margo yn sydyn oherywdd datblygiadau Corona. Roedd Margo wedi bod yn help enfawr i mi wrth imi ymgartrefu yn Nhrevelin ac fe wnaeth gyfraniad anhygoel i’r ysgol- diolch yn fawr iawn i ti Athrawes Margo!

Er gwaethaf y ffaith fod yr ysgol ar gau, dwi’n dal i weithio. Dwi’n anfon gwaith adref ar ffurf fideos a dwi newydd orffen ffilmio cyflwyniad ar ferfau i flwyddyn 4. Mae nawr gyda fi sianel YouTube lle dwi’n llwytho’r holl fideos yma i. Mae’n cymryd llawer o amser i wneud y gwaith oherywdd cyflymder y we yma, ond dwi’n dod i ben a hi’n araf- mae angen rhywbeth i wneud yn does?! Mae’n her newydd ddysgu fel hyn ond roeddwn yn barod i gael fy herio ac mae’n rhaid gwneud beth fedrwn. 
​
Mae’n anodd iawn bod ben draw’r byd ar adeg mor ansicr. Does neb chwaith yn gwybod pryd ddaw hyn i ben. Dwi’n colli teulu a ffrindiau yn fwy nag erioed ond yn cadw mewn cysylltiad gyda phawb adre ac mae pawb yma yn barod i helpu os a phryd fydd angen.
Edrychwch ar ôl eich gilydd, 
Gwenno
1 Comment

Clefyd Firws Corona (Covid 19) Yn Cau Ysgolion Cymreig ym Mhatagonia -  Ysgol y Cwm yn lansio apêl arbennig.

5/4/2020

2 Comments

 
Clefyd Firws Corona (Covid 19) Yn Cau Ysgolion Cymreig ym Mhatagonia -  Ysgol y Cwm yn lansio apêl arbennig.

Dydd Llun, Mawrth 16, cafodd pob un o ysgolion y Wladfa eu cau yn orfodol gan lywodraeth yr Ariannin. Am fisoedd lawer, mae Llywodraeth Chubut (y dalaith yn yr Ariannin ble lleolir yr holl drefi Cymreig) wedi gwrthod talu athrawon Ysgol y Cwm, gan honni nad oedd arian ar gael. Dim ond am un gweinyddwr i’r ysgol mae’r llywodraeth yn fodlon talu.

Mae llywodraeth daleithiol Chubut wedi cael ei threchu ers blynyddoedd lawer gan lygredd dwys a dwfn, gan adael y dalaith gyda’r ddyled fwyaf (fesul pen o’r boblogaeth) yn yr Ariannin. Mewn talaith o “ffafrau gwleidyddol”, mae nifer y bobl a gyflogir gan y dalaith wedi codi o 22,000 i dros 65,000 yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac, er ei holl gyfoeth naturiol, twristiaeth, amaethyddiaeth a physgota, mae'r dalaith wedi codi dyled o bron i 1 biliwn o ddoleri, sy'n cynnwys 250 miliwn a dalwyd am waith cyhoeddus na chafodd ei gyflawni.

Roedd y llywodraeth mewn cymaint o ddyled fel y na allai dalu cyflogau gweithwyr cyhoeddus mewn pryd ac, o ganlyniad, aeth undeb yr athrawon ar streic, gan adael y mwyafrif o ysgolion y wladwriaeth ar gau yn 2019 am fisoedd ar ddiwedd.

Nid oedd yn fawr o syndod, o ystyried yr anhrefn a’r annibendod yn y dalaith, fod rhieni'n chwilio am hafan ddiogel i'w plant.

Fe ddaethon nhw o hyd i’w hafan yn Ysgol y Cwm, Trevelin, sydd erioed wedi colli diwrnod ysgol oherwydd gweithredu diwydiannol. Yn wir, roedd cymaint o alw am lefydd yn yr ysgol nes bod rhaid cynnal rhestr aros, ac fe gynyddwyd yn sylweddol y nifer o blant heb unrhyw gefndir Cymraeg a oedd yn mynychu, gan sicrhau dyfodol disglair i'r Gymraeg yn y rhan hyfryd hon o Batagonia.

Yn anffodus, nawr, gyda dyfodiad Firws Corona (er nad oes unrhyw achosion wedi'u cadarnhau yn Chubut eto), mae perygl y bydd y sglein yn cael ei golli. Ni fu'r ysgol erioed mewn sefyllfa i wneud unrhyw arian, ac, mewn gwirionedd, roedd yn colli’n agos ar £1,000 y mis. Roedd llawer o’r diffyg hwn yn cael ei gyflenwi gan “Warchodwyr” a oedd yn rhoi rhwng £10 a £50 y mis, yn ogystal â digwyddiadau codi arian ym Mhatagonia ac yng Nghymru. Mae'r ergyd ddiweddaraf hon yn golygu efallai na fydd yr ysgol bellach yn derbyn ffioedd gan y rhieni, ond bydd yn rhaid iddi barhau i dalu cyflogau i'w staff. Mae’r athrawon bellach yn brysur iawn yn creu dosbarthiadau Cymraeg digidol, er mwyn i’r plant gael dysgu o adref.

Mae wir angen cymorth ariannol ar yr ysgol i oroesi'r storm hon. Gellir gwneud hyn trwy roi arian yn  uniongyrchol i gyfrif banc yr ysgol yn Llundain neu, yn ddelfrydol, trwy sefydlu archeb banc sefydlog o blaid yr ysgol. Mae'r holl fanylion ar wefan yr ysgol (www.ysgolycwm.com). Bydd pob rhodd yn helpu. Bydd archeb sefydlog o ddim ond £5 y mis nid yn unig yn helpu’n ariannol heddiw, bydd hefyd yn helpu’r ysgol i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

​Corona Virus Disease (Covid 19) Closes Welsh Schools in Patagonia – Ysgol y Cwm launches a special appeal


On Monday 16 March, all schools in Welsh Patagonia were compulsorily closed by the Argentine government.
For many months, the Chubut (the Argentina Province where all the Welsh towns lie) Government has refused to pay the Welsh and other teachers in the new Welsh school in Trevelin, Ysgol y Cwm, claiming that they had no money. They pay only for a single administrator. This Provincial Government has been racked for many years by intense corruption, leaving it as the most indebted (by head of population) in Argentina. In this province of “political favours”, the number of people employed by the province has risen from 22,000 to over 65,000 in recent years. And, despite natural riches, tourism, agriculture and fishing, the province has racked up a debt of almost one billion dollars, which includes 250 million paid for public works which were never carried out. The government was so broke that it couldn’t pay its public employees on time and, as a consequence, the militant teachers’ union went on strike, leaving most state schools closed in 2019 for months on end.

It was hardly surprising, given the chaos in the province, that parents were looking for a safe haven for their children.

They found it in Ysgol y Cwm in Trevelin, which has never lost a day through industrial action. Indeed, the school was so much in demand that it maintained a waiting list and dramatically increased the intake of children with no Welsh background, thereby securing a rosy future for the Welsh language in this beautiful part of Patagonia.

Sadly, now, with the advent of the Corona Virus (although there are no confirmed cases of the virus in Chubut), the rose is in danger of dying – the school had never been in a position to make any money. In fact, it was losing close on £1,000 per month, but much of the shortfall was made up by standing orders from “Guardians” who gave between £10 and £50 per month, as well as fund raising schemes in Patagonia and in Wales. But this latest hammer blow means that the school may no longer be in receipt of fees from the parents, but it must still maintain payments to its teaching staff. They are now very busy creating Welsh distance teaching solutions for the children at home in Trevelin.
​
The school desperately needs financial help to weather this storm. These can be made directly into the school’s bank account in London or, preferably, in the form of standing orders in favour of the school. All the details are on the school’s website (www.ysgolycwm.com). Every donation will help. A standing order of just £5 per month will not only help financially today, but it will help the school to plan for the future when it can anticipate its future income stream from Guardians.
2 Comments

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria