Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

Adnodd Newydd Ar Gyfer Dysgwyr Y Wladfa

21/6/2019

2 Comments

 
Picture
Mae gwefan sydd yn helpu pobl i ddysgu Cymraeg bellach ar gael mewn Sbaeneg. Fe lansiwyd Parallel.Cymru ym mis Tachwedd 2017 gan Neil Rowlands, dysgwr o Gaerdydd ac Abertawe gyda chefndir mewn Technoleg Gwybodaeth, dylunio graffig a gwe, a rheoli elusennau bach. Cafodd y syniad o greu’r wefan wrth wirfoddoli gyda’i Fenter Iaith leol.
“Yn lle bod yn blog cyffredin, dw i'n canolbwyntio ar roi persbectif person cyntaf ar y byd Cymraeg,” eglurai Neil.
“Felly, pobl sy'n ysgrifennu, rhedeg busnesau, trefnu gweithgareddau, creu cerddoriaeth a chelf, neu sydd â stori ddiddorol i’w hadrodd, sy’n rhannu eu profiadau.”
“Mae hyn yn golygu y bydd cynnwys unigryw a safonol i chi ei fwynhau bob tro y byddwch yn dod i’r wefan”
Y syniad y tu ôl i Parallel.Cymru oedd creu cylchgrawn dwyieithog ar-lein, gyda chasgliad o erthyglau, bywgraffiadau, straeon a mwy i’w mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Drwy gyhoeddi popeth ochr-wrth-ochr yn y ddwy iaith, mae’r wefan yn rhoi cyfle i ddysgwyr ehangu eu geirfa trwy ddarllen yn Gymraeg gyda chymorth y cyfieithiad Saesneg. 
Ym mis Chwefror 2018  fe gyhoeddodd y wefan ei erthygl gyntaf drwy gyfrwng y Sbaeneg, ochr-wrth-ochr gyda chyfieithiad Cymraeg, er mwyn helpu dysgwyr Cymraeg Patagonia. Mae erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu bob wythnos, ac mae’r wefan bellach yn dal dros 5,000 o eitemau amrywiol, gan gynnwys cylchlythyrau Ysgol y Cwm a gwaith o gystadlaethau cyfieithu eisteddfodau’r Wladfa.
Un sydd yn gyfarwydd â Parallel.Cymru yw Dr. Lynda Pritchard Newcome, awdur y llyfr ‘Speak Welsh Outside Class’ (Siaradwch Gymraeg Y Tu Allan i’r Dosbarth’), a ymwelodd â’r Wladfa’n ddiweddar. Dywedodd Lynda:
“Rwy’n credu, fel llawer o diwtoriaid ar hyn o bryd, bod hunanhyder yn fwy hanfodol wrth ddysgu iaith na thalent. Wrth ddarllen testunau paralel mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau heb deimlo dan fygythiad, yn adeiladu hyder i ddefnyddio beth maen nhw wedi dysgu yn y byd go iawn."
Mae Parallel.Cymru wedi ei anelu at ddysgwyr a siaradwyr o bob lefel, ac mae’r erthyglau wedi eu trefnu yn ôl safon yr iaith, o straeon byr hawdd i’w darllen i erthyglau llenyddol . Mae’r wefan yn gwbl rad ac am ddim, ac mae deunydd hefyd ar gael i’w lawr-lwytho ar ffurf PDF neu MP3.


2 Comments

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria