Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

Blog Gwenno - Mis Chwefror

10/3/2020

2 Comments

 
Picture
Helo! Gwenno ydw i ac rwyf yn dod o Benrhyn-Coch ger Aberystwyth, Ceredigion. Eleni, byddaf yn gweithio fel athrawes Gymraeg yn Ysgol y Cwm, Trevelin. Dilynwch fi ar fy nhaith i ben draw’r byd ac i glywed fwy am fy hynt a helynt.

Bu’n freuddwyd i mi ers blynyddoedd bellach i weithio yn y Wladfa. Wedi gorffen fy mlwyddyn sefydlu mewn ysgol yn Aberystwyth, es ati i chwilio am swydd dramor a gwelais fod Ysgol y Cwm yn chwilio am athro. Profiad newydd i mi oedd cael cyfweliad Skype ond ar nos Sadwrn nôl ym mis Medi cysylltodd Clare Vaughan o Drevelin a fi i’m cyfweld. Bu’n sioc enfawr clywed gan Clare trannoeth yn cynnig y swydd i mi!

Anodd iawn oedd ffarwelio ar deulu a ffrindiau. Anodd hefyd oedd pacio’r siwtcesys gan sicrhau eu bod dan bwysau. Cofiwch roedd rhaid pacio am ddeg mis! Gyda’n bagiau wedi’i bacio, dyma fi’n mynd am y maes awyr ar y 9fed o Chwefror a hynny yng nghanol Storm Caira! Y cyngor i bawb y diwrnod yna oedd peidio gadael y tŷ heblaw bod wir angen a dyna le roeddwn i, Mam a Dad yn mynd o Geredigion i Gatwick. Wedi teithio am ryw awr, dyma neges yn dweud fod yr hediad wedi’i ddileu. Golyga hyn y buaswn yn cyrraedd Buenos Aires yn rhy hwyr i ddal yr ail hediad ac y bws o Bariloche i Esquel. Fodd bynnag, braf iawn oedd gwybod fod Margarita Green a Clare ochr arall y ffon yn paratoi cynllun B, C a Ch i mi. Roedd yr hediad bum awr yn hwyr yn gadael Gatwick ac am ddau o’r gloch y bore dyma adael am Buenos Aires. Trwy lwc i mi lwyddais i gysgu mwyafrif yr hediad! Hoffwn ddiolch i Deithiau Tango am noddi’r hediad allan i Buenos Aries- diolch yn fawr iawn. Un taith awyren a un daith bws yn ddiweddarach braf iawn oedd gweld Clare yn aros amdanaf yn Esquel!

Tridie ar ôl gadael Penrhyn Coch, dyma fi’n cyrraedd Trevelin a gweld arwyddion Cymraeg a’r ddraig goch yn chwifio’n uchel dros y dref. Dwi’n byw mewn fflat newydd yng nghanol y dref- yn agos i bopeth ac wrth agor y lleni yn y bore, caf fy nghroesawu gan fynyddoedd yr Andes- hyfryd yn wir.

Roeddwn yn nerfus iawn i gwrdd â phawb ond roedd dim angen poeni o gwbl. Mae pawb wedi bod yn hynod o groesawgar ac wedi gwneud i mi deimlo’n rhan o’r gymuned yn syth. Dwi’n dechrau cyfarwyddo gydag arferion Ariantwyr- siestas (roedd hwn ddim yn anodd iawn…) y bwyta’n hwyr gyda’r nos a’r ffaith fod popeth yn llawer mwy hamddenol- mae 20:00 yn golygu tua 21:00 ar y cynharaf. 

Cyn cyrraedd roeddwn yn poeni braidd am fy niffyg Sbaeneg. Mae wedi bod yn heriol mynd i siopa a gofyn am bethau, ond, gyda symudiadau gwahanol ac ychydig o Sbaeneg dwi’n dod i ben. Fodd bynnag, erbyn mis Rhagfyr mi fyddaf yn rhugl…gobeithio. Yn yr ysgol, mae Nia Jones (athrawes Gymraeg) a Margo (gwirfoddolwr) yn fy helpu gyda’r iaith a dwi’n dechrau dod i ddeall fwy.

Ar ddiwrnod cynta’r ysgol, cafwyd seremoni Acto i groesawu’r flwyddyn newydd. Wedi’r seremoni ddigwydd, cafodd pob aelod o staff ei gyflwyno…trwy neidio allan o focs enfawr! Dwi’n dysgu blynyddoedd dau a phedwar yn yr ysgol yn ogystal â dysgu athrawon ac oedolion eraill. Dwi erioed wedi dysgu oedolion felly’n edrych ymlaen at y sialens newydd yma. Erbyn hyn rwyf wedi cyrraedd diwedd fy wythnos gyntaf o ddysgu yma yn Nhrevelin. Mae’r plant yn hynod o groesawgar ac yn barod i weithio ar ôl gwyliau’r Haf.
Diolch yn fawr iawn i chi Ysgol y Cwm am y cyfle arbennig yma, dwi’n edrych ymlaen at fwrw fewn i’r gwaith arbennig sydd yn aros amdanaf eleni! Mae nifer o bethau cyffroes yn digwydd fis nesaf gan gynnwys dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Felly, hwyl am y tro,
​
Gwenno 


2 Comments

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria