Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

John Daniel Evans, Malacara and the Massacre at Dyffryn y Merthyron (English)

10/12/2016

0 Comments

 
0 Comments



25/10/2016

1 Comment

 

​Gwerthu gwin Patagonaidd yng Nghymru i gefnogi Ysgol y Cwm.


Fe ymwelodd John Watkin o Dregaron a Phatagonia'r llynedd, i ddathlu 150 o flynyddoedd ers i´r Cymry cyntaf lanio yn y Wladfa. Yno, cafodd flas ar ddiwylliant Cymreig wrth ymweld ag Eisteddfod y Wladfa yn Nhrelew, a chafodd gyfle i flasu rhai o winoedd arbennig yr ardal.
 
Cafodd John ei syfrdanu gan ei brofiadau yno, ac fe´i ysgogwyd i fewnforio gwin Archentaidd i mewn i Gymru. Wedi misoedd o ddelio gyda chymhlethdodau logistaidd y broses, mae John nawr yn falch o gael lansio gwin Malbec Patagonaidd “Meibion y Mimosa”. Bydd yr holl elw o werthiant y gwin hwn yn mynd tuag at Ysgol y Cwm (Ysgol Gymraeg yr Andes gynt) yn Nhrevelin.
​
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Mae Ysgol y Cwm hefyd yn derbyn elwau o werthiant dau lyfr ar hanes y Wladfa, sef ´Gwalia Patagonia´ gan Jon Gower a ´Cyflafan Dyffryn y Merthyron´(ar gael yn Siop y Pethe, Aberystwyth) gan Jeremy Wood, llyfr tair-ieithog am hanes llofruddiaeth tri o Gymry ifanc yn 1884, a dihangfa enwog John Daniel Evans ar ei geffyl Malacara.
Picture

​A new Patagonian wine announced in Wales to support Ysgol y Cwm.

John Watkin, of Tregaron, visited Patagonia last year for the 150th Anniversary of the arrival of the first Welsh settlers. His visit gave him a chance to enjoy Patagonian Welsh culture at first hand, through the Chubut Eisteddfod, as well as allowing him to sample many of the wonderful Patagonian wines that rarely leave the cellars of the avid collectors in this little-known wine growing region.

He was sufficiently impressed with both experiences that he spent many months dealing with the complexities of importing Argentinean wine into Europe and he has now launched in Wales a Patagonian Malbec, "Meibion y Mimosa", all the profits from the sale of which will be given to Ysgol y Cwm (previously called Ysgol Gymraeg yr Andes) in Trevelin.

For more information, please contact John Watkin at [email protected]

Ysgol y Cwm is also the recipient of the sales proceeds of two books relating to Patagonia. Jon Gower's "Gwalia Patagonia" and Jeremy Wood's recently published trilingual book (available at Siop y Pethe, Aberystwyth) about the murder of three young Welsh men by Patagonian Indians in 1884 and the discovery of a new location of "Malacara's Leap", the site where the only survivor of the attack, John Daniel Evans, was carried to safety by his young horse.

1 Comment

Awst 19fed, 2016

19/8/2016

0 Comments

 
0 Comments

Gefeillio Trevelin ac Aberteifi

18/4/2016

0 Comments

 
Picture
 A wyddoch chi fod Trevelin wedi ei gefeillio gydag Aberteifi? Nôl yn 2005 fe arwyddwyd cytundeb gan fwrdeisiaeth Trevelin er mwyn hybu´r cysylltiadau rhwng y ddwy dref, ac yr wythnos ddiwethaf fe gynhaliwyd cyfarfod answyddogol yn Ysgol y Cwm, er mwyn trafod y ffordd ore i symud ymlaen gyda´r gefeilliaid. Cynigwyd sawl syniad cyffrous ac uchelgeisiol, gyda´r bwriad o godi rhagor o ymwybyddiaeth am y gefeillio a datblygu cysylltiadau rhwng sefydliadau diwylliannol, ieithyddol ac addysgiadol y ddwy dref. Cadwch olwg ar y dudalen hon am ragor o newyddion am y gefeillio!

¿Sabías que Trevelin está hermanada con Aberteifi en Gales ? En 2005 se firmó un acuerdo con el municipio de Trevelin con el fin de promover y establecer vínculos entre los dos pueblos. La semana pasada, una reunión no oficial se realizó en Ysgol y Cwm para discutir la mejor manera de tomar el hermanamiento adelante. Se propusieron varias ideas interesantes y ambiciosos con el fin de elevar aún más la conciencia del hermanamiento , y desarrollar aún más los vínculos culturales, educativas y lingüísticas entre las dos ciudades. Mira esta página para noticias!

Did you know that Trevelin is twinned with Cardigan? In 2005 an agreement was signed by the municipality of Trevelin in order to promote and establish links between the two towns. Last week, an unofficial meeting was held at Ysgol y Cwm to discuss how best to take the twinning forward. Several exciting and ambitious ideas were proposed with the aim of raising further awareness of the twinning, and further developing the cultural, educational and linguistic links between the two towns. Watch this space for news of developments!

0 Comments

Ysgol ddwyieithog newydd i’r Wladfa 

6/4/2016

0 Comments

 
Erthygl o Golwg360, 09.03.2016
Picture
Mae’r ysgol ddwyieithog gyntaf yn rhan orllewinol y Wladfa ym Mhatagonia wedi agor ei drysau am y tro cyntaf heddiw. Ysgol y Cwm yw’r drydedd ysgol ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg i’r Wladfa, ac mae wedi ei lleoli yn Nhrevelin wrth droed mynyddoedd yr Andes. “Mae pawb yn hynod o gyffrous yma,” meddai Isaías Grandis, sy’n byw yn Nhrevelin ac yn enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012, wrth golwg360. “Mae’n rhywbeth hollol hanesyddol, oherwydd dyma’r tro cyntaf erioed inni gael ysgol gwbl ddwyieithog yn yr Andes.” Fe fydd yr ysgol yn croesawu disgyblion oed cynradd a meithrin i’w dosbarthiadau heddiw, ac fe fydd ei hagoriad swyddogol yn digwydd ddydd Llun, 14 Mawrth. ‘I’r genhedlaeth nesaf’ Yn ôl Isaías Grandis, mae 50 o blant eisoes wedi cofrestru i fynychu’r ysgol, ac fe fydd pedwar athro Cymraeg a thri athro Sbaeneg yn addysgu yno. “Mae Ysgol y Cwm yn bwysig iawn, oherwydd mae’n ffordd i sicrhau y bydd yr iaith yn parhau i’r genhedlaeth nesaf, a chenedlaethau i ddod.”

Fe esboniodd fod ysgol ‘allgyrsiol’ yn bodoli eisoes yng Nghwm Hyfryd, ond roedd aelodau’r gymdeithas Gymraeg yn awyddus i sicrhau darpariaeth addysg Gymraeg swyddogol a pharhaol i’r ardal. “Dyma oedd prif fwriad yr Andes ar gyfer blwyddyn dathlu’r Wladfa yn 150 y llynedd, ac rydym yn falch o lwyddo,” meddai. Fe esboniodd fod pobl o bob tras yn awyddus i fynychu’r ysgol a dysgu’r Gymraeg. “Fe allwn ni gymharu Ysgol y Cwm ag Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, sy’n ysgol ffrwythlon a ffyniannus, ac mae pawb yn edrych ymlaen at brofi’r bwrlwm,” ychwanegodd Isaías Grandis

0 Comments

Una conversación con la directora

6/4/2016

0 Comments

 
0 Comments

Dyfodol ysgol Gymraeg newydd y Wladfa yn y fantol 

4/4/2016

0 Comments

 
Erthygl gan Jeremy Wood (English version posted soon/Versión castellano publicado en breve)
Er ymdrechion di-flino cymuned y Wladfa yn Nhrevelin ac Esquel, mae’r ysgol Gymraeg newydd bydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg llawn amser i blant 3 i 11 oed wedi peidio ag agor ar amser oherwydd diffyg  cydweithrediad gan y llywodraeth, chwyddiant a phroblemau gydag arolygwyr.

Dechreuodd Ysgol Gymraeg yr Andes yn y tŷ Capel, drws nesaf i Gapel Bethel, Trevelin, ac erbyn hyn, mae ganddi enw da fel canolfan sydd wedi bod yn darparu addysg o’r radd flaenaf i ddwy genhedlaeth, ac yn wir wedi meithrin dau enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Tan yn ddiweddar buasai plant, yn ogystal ag oedolion, yn mynychu  gwersi Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes yn ychwanegol i’w haddysg mewn ysgolion lleol eraill. Daeth addysg Gymraeg swyddogol i ben dros ganrif yn ôl yn y Wladfa ac fellycanolfan i ddysgu´r iaith yn unig oedd Ysgol Gymraeg yr Andes.
Yn 2014, ffurfiwyd pwyllgor gan gymunedau Cymraeg yr Andes yn Esquel a Threvelin i bennu  blaenoriaethau dathlaidau 150 mlwyddiant y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.  Cytunwyd yn ddieithriad ar godi ysgol feithrin ac ysgol gynradd newydd yn Nhrevelin i ddarparu cartref llawn amser i hybu´r iaith Gymraeg yn yr Andes, ac felly sefydlwyd Ysgol y Cwm.

Cafwyd addewidion o gyfraniadau ariannol sylweddol gan lywodraeth rhanbarthol yma yn yr Ariannin at gost yr adeilad yn ogystal â thalu cyflogau´r athrawon ar yr amod y buasai´r ysgol yn dilyn cwricwlwm cenedlaethol yr Ariannin. Penderfynwyd felly, er mwn manteisio ar gefnogaeth y llywodraeth, i´r ysgol newydd fod yn un hollol ddwy-ieithog, gan ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a´r Sbaeneg. Cefnogwyd y cynllun gant y cant gan y cymunedau lleol. Rhoddwyd y tir ar gyfer yr adeilad newydd gan Gymdeithas Gymraeg Trevelin, gweithiodd y pensaer yn gwbl ddi-dal, talwyd am gyflog athro o Gymru gan berson lleol a chafodd lety am flwyddyn gan un arall.

Roedd dyfodol yr iaith Gymraeg yn y Wladfa´n edrych yn ddisglair.
Yn anffodus, derbyniwyd dim ond traean o´r arian ag addawyd gan y llywodraeth rhanbarthol, ac  hynny wedi oedi sylweddol. Yn dilyn etholiadau 2015, cafwyd gweinidogion llywodraethol newydd nad oeddent eisiau talu dyledion y swyddogion cynt. Ar ben hynny oll mae chwyddiant anferthol wedi codi costau adeiladu tua 35%. Erbyn hyn, mae cyrraedd costau cwblhahu´r gwaith ymhell y tu hwnt i gymuned Trevelin.

Er hynny, nid yw´r gymuned  wedi rhoi´r ffidil yn y to. Gwerthwyd plotiau o dir, casglwyd rhoddion ariannol o bedwar ban byd, cafwyd cyfraniad sylweddol gan yr awdur John Gower a roddodd holl elw ie lyfr Gwalia Patagonia i´r ysgol, a llwyddwyd i godi digon o arian i adeiladu rhan gyntaf yr ysgol newydd sef pedwar dosbarth.

Ond unwaith eto, oherwydd oedi pellach gyda thaliadau´r llywodraeth, nid oedd digon o gyllid i ariannu hyd yn oed cymalau cyntaf adeiladu´r ysgol.
Parhau wnaeth y gymuned a chyhoeddwyd y bysai´r ysgol newydd yn agor i blant 3, 4 a 5 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn addysgiadol, sef Mawrth y cyntaf 2016. Cofrestrodd dros 50 teulu, sy´n dangos y parch at yr iaith yn yr ardal.

Yn anffodus, yn dilyn arolwg gan y llywodraeth, mynnwyd bod system wresogi´n cael ei gosod cyn i´r ysgol agor, a hithau´n ganol haf yma. Golyga hyn gost ychwanegol o £17,000 ac yn waeth na hynny, rhieni yn danfon eu plant at ysgolion eraill (dros dro gobeithio) oherwydd ei fod yn orfodol danfon plentyn i´r ysgol ar ddechrau´r tymor pan yn 5 oed.

Agorwyd yr ysgol ddydd Mercher y nawfed o Fawrth. Dwy ystafell ddosbarth, 31 o blant, dim system wresogi, ond fe agorwyd yr ysgol.
Felly mae gan y gymuned rhyw fath o ysgol newydd. Mae´r gefnogaeth gan rieni´n anhygoel, gyda phawb yn awyddus i roi addysg yn seiliedig ar werthoedd a thraddodiadau Cymreig i´w plant, a chriw o athrawon ifanc, brwdfrydig sydd wedi ymroi yn llwyr i´w gwaith.

Mae angen £20,000 ar frys i osod y system wresogi newydd a chwblhau gwelliannau eraill er mwyn cael sel bendith arolygwyr y llywodraeth.  Bydd modd wedyn bwrw mlaen a chwblhau´r ddwy ystafell ddosbarth nesaf ar gyfer disgyblion oed 6 a 7 (yn ogystal â bod yn leoliad ar gyfer gwersi oedolion a dosbarthiadau dawns) sydd wedi eu codi ond heb eu gorffen eto. Caiff pedair ystafell ychwanegol a neuadd eu codi pan fydd yr ysgol wedi derbyn cyllid pellach gan y llywodraeth ac hefyd elw o werthu tir y Gymdeithas Gymraeg.
Wedi gweithio´n ddi-flino i godi´r arian drwy werthu tir, mae´r gymuned leol nawr yn estyn llaw at y gmuned ryngwladol i helpu i godi gweddill yr arian sydd ei angen er mwyn agor yr ysgol. Bydd pob cyfraniad, mawr a bach, yn werthfawr. Mae´r ysgol yn chwilio am unigolion neu gwmnïau i noddi dosbarthiadau, costau cysylltu â´r we, y neuadd chwaraeon a llawer mwy.

Bysai´r ysgol hefyd yn gwerthfawrogi petasech yn ymuno â´r criw cynyddol sy´n noddi´r ysgol yn fisol. Bydd noddwyr yn derbyn holl newyddion yr ysgol am ddatblygiadau a gweithgareddau ac wrth gwrs bydd bob tro croeso cynnes i chi ymweld â ni!

Os hoffech gyfrannu, mae manylion cyfrif banc yr ysgol ar gael ar y wefan sef ysgolycwm.com .
​
Dywedodd Margarita Green, ysgrifennydd yr ysgol, “Rydyn ni bron iawn a gwireddu´r freuddwyd a fydd yn sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr Andes ym Mhatagonia. Gobeithiwn y gall pobl Cymru´n cefnogi.”
0 Comments

Mawrth 9fed, 2016

9/3/2016

0 Comments

 
Bu heddiw´n ddiwrnod hanesyddol yn hanes addysg Gymraeg yn y Wladfa, wrth i Ysgol y Cwm agor ei drysau am y tro cyntaf! Gyda´r haul yn gwenu´n braf, croesawyd y criw cyntaf o 50 o blant meithrin i´w dosbarthiadau newydd - yn y pendraw, bydd lle i 200 o blant yn yr ysgol newydd.
0 Comments
Forward>>

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria